#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-794

Teitl y ddeiseb: Gostwng yr oedran pleidleisio i un ar bymtheg

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ostwng yr oedran pleidleisio i un ar bymtheg ar gyfer yr etholiadau hynny lle y mae ganddo'r pwerau i wneud hynny.

 

Y cefndir

 Mae Deddf Cymru 2017 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud darpariaethau’n ymwneud ag etholiadau'r Cynulliad a llywodraeth leol, gan gynnwys y gallu i ostwng yr oedran pleidleisio. Disgwylir i'r darpariaethau perthnasol ddod i rym ar 1 Ebrill 2018.

18 yw’r oedran pleidleisio isaf ar gyfer holl etholiadau a refferenda yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn yr Alban, caniatawyd i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn y Refferendwm Annibyniaeth ym mis Medi 2014. Yn ôl adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar Refferendwm Annibyniaeth yr Alban, cofrestrodd 109,593 o bobl ifanc 16 ac 17 oed i bleidleisio yn refferendwm yr Alban. Dywedodd 75% o'r bobl ifanc 16-17 oed y siaradodd y Comisiwn Etholiadol â nhw eu bod wedi pleidleisio a dywedodd 97% o'r rheiny y byddent yn pleidleisio eto mewn etholiadau a refferenda yn y dyfodol. Ers hynny, mae Senedd yr Alban wedi pasio  Deddf Etholiadau’r Alban (Gostwng yr Oedran Pleidleisio) 2015  gan ostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn etholiadau Seneddol yr Alban ac etholiadau lleol.

16 yw’r oedran pleidleisio isaf yn Ynys Manaw, Jersey a Guernsey hefyd.

Fel yr amlinellwyd ym  Mhapur Briffio Gwasanaeth Ymchwil Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin ar yr Oedran Pleidleisio, bu ymdrechion yn ystod hynt Bil Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd 2015-16 i ddiwygio'r Bil er mwyn ehangu’r etholfraint ar gyfer y refferendwm a chynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed. Cytunwyd ar y gwelliant yn Nhŷ'r Arglwyddi pan bleidleisiodd 293 o’i blaid a 211 yn ei erbyn, ond cafodd ei wrth-droi wedyn yn Nhŷ’r Cyffredin.

Cyflwynwyd dau Fil Aelod Preifat yn Nhŷ'r Cyffredin gyda'r nod o ostwng yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r DU. Bydd Bil Cynrychiolaeth y Bobl (Rhyddfraint ac Addysg Pobl Ifanc) 2017-19  Jim McMahon AS a  Bil Cynrychiolaeth y Bobl (Rhyddfraint Pobl Ifanc) 2017-19  Peter Kyle AS yn cael Ail Ddarlleniad ar 11 Mai 2018. Mae Bil Aelod Preifat,  at yr un perwyl, hefyd wedi’i gyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Ym mis Mehefin 2017, mewn briff o'r enw  Votes at 16  , dywedodd y Gymdeithas Diwygio Etholiadol eu bod o blaid rhoi’r bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed ym mhob etholiad a refferendwm. Yn ôl y Gymdeithas:

Enfranchising younger people is one of the ways we can try to build a better democracy in the UK. There is a widening gulf between people and politics – we see lowering the franchise as vital to nurturing more active citizens for the future health of our democracy. Giving 16 and 17 year olds a vote provides an opportunity to get the next generation more engaged with politics.

Y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Daeth  ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio etholiadau lleol yng Nghymru  i ben ar 10 Hydref 2017 ac mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd. Fel rhan o’r broses hon, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ynghylch ymestyn yr etholfraint i gynnwys pawb sy'n 16 oed ar y diwrnod pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Mae'r ddogfen ymgynghori yn nodi:

Bu’n bolisi gan Lywodraeth Cymru ers sawl blwyddyn i ostwng yr oed pleidleisio i 16, ac yn wir fe bleidleisiodd y Cynulliad o blaid hyn gyda mwyafrif clir ym mis Mai 2013. At hynny, cynhwyswyd y polisi ym maniffesto’r Blaid Lafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Etholiad Cyffredinol. Dylem fod mewn sefyllfa i weithredu hyn yn fuan.

Mewn  llythyr  at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, dyddiedig 5 Rhagfyr 2017, dywedodd y Prif Weinidog mai:[GM(CyC|AC1] 

bwriad Llywodraeth Cymru yw y bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio yn etholiadau nesaf y Cynulliad Cenedlaethol a llywodraeth leol.

Y camau a gymerwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Rhwng mis Tachwedd 2014 a mis Mehefin 2015 ymgynghorodd y Cynulliad â phobl ifanc  a daeth i’r amlwg fod 53% o'r 10,375 a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad o blaid gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed.

Ym mis Chwefror 2017, sefydlodd Comisiwn y Cynulliad Banel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol. Un o ddibenion y Panel Arbenigol oedd cynghori Comisiwn y Cynulliad ynghylch yr oedran pleidleisio isaf yn etholiadau'r Cynulliad. Cyflwynodd y Panel ei adroddiad  ym mis Rhagfyr 2017 ac argymhellodd y dylid lleihau'r oedran pleidleisio lleiaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad i 16 yn effeithiol o etholiad 2021 (Argymhelliad 14). Yn ôl y Memorandwm:

Mae'r dystiolaeth yr ydym wedi'i hystyried yn awgrymu y byddai gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed yn fodd grymus o godi ymwybyddiaeth wleidyddol a chyfranogiad mewn gwleidyddiaeth ymysg pobl ifanc. At hynny, pe byddai Llywodraeth Cymru yn deddfu i ostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol Cymru o 2022 ymlaen, byddai'n anghyson iawn, ac yn codi materion gwleidyddol a gweinyddol ychwanegol, pe na byddai'r oedran pleidleisio yn cael ei ostwng ar gyfer etholiadau'r Cynulliad o 2021 ymlaen hefyd. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod etholiadau sy'n cael mwy o sylw yn fwy tebygol o arwain at gynnydd yn y gyfran sy'n pleidleisio; felly mae'n ddymunol, pe byddai'r etholfraint yn cael ei hymestyn yng Nghymru, ei bod yn cael ei defnyddio gyntaf yn etholiad y Cynulliad, gan fod hwnnw'n denu mwy o sylw [para 15.39]

Daeth y Panel i'r casgliad hefyd:

I sicrhau y caiff pobl ifanc eu hannog a'u cefnogi i arfer eu hawl i bleidleisio, dylai unrhyw ostyngiad yn yr oedran pleidleisio gael ei gyflwyno law yn llaw ag addysg briodol, effeithiol ac amhleidiol o ran gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth. [para 16.38]

 Ar 10 Ionawr 2018, mewn a  llythyr  yn ymateb i'r ddeiseb hon, dywedodd y Llywydd y: [GM(CyC|AC2] 

bydd Comisiwn y Cynulliad yn ymgynghori'n gynnar yn 2018 ynghylch sut y dylid bwrw ymlaen ag argymhellion y Panel a'r rhaglen ddiwygio ehangach.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 


 [GM(CyC|AC1]Link to letter

 [GM(CyC|AC2]Add link